Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Rhagfyr 2016
Petitions Committee | 13 December 2016

Rhif y ddeiseb: P-05-727

Teitl y ddeiseb:  Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion

​Ers mis Ebrill 2016, mae Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn gorfod cofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg – y corff sydd hefyd yn rheoleiddio athrawon a darlithwyr addysg bellach.

Eleni, y gwir ffi cofrestru a godwyd ar Weithwyr Cymorth Dysgu oedd £15. £45 oedd y ffi a godwyd ar staff dysgu a darlithio. Nid yw’r ffi a godir fis Ebrill 2017 yn glir eto. O ganlyniad i waith lobïo gan UNSAIN, cytunodd 12 o awdurdodau lleol i dalu’r ffi ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion yn 2016, naill ai’n llawn neu’n rhannol, gan gydnabod bod cyflogau’r gweithwyr hyn ymhlith yr isaf yn y sector cyhoeddus, yn bennaf oherwydd eu statws fel gweithiwr sy’n gweithio yn ystod y tymor yn unig.  Hyd yma, mae cylch gorchwyl Cyngor y Gweithlu Addysg yn ymwneud yn bennaf ag athrawon a darlithwyr sy’n cael cyflogau llawer uwch na Gweithwyr Cymorth Dysgu.

Merched yw’r rhan fwyaf o Weithwyr Cymorth Dysgu, ac mae’r mwyafrif helaeth yn cael eu talu i weithio yn ystod y tymor yn unig, yn wahanol i athrawon a darlithwyr; mae eu cytundebau’n fwy tebygol o fod yn gytundebau am dymor penodol ac o fod ar drugaredd toriadau yng nghyllideb yr ysgol. Mae gan nifer ohonynt fwy nag un swydd eisoes.

Dylid cydnabod yr awdurdodau lleol hynny a ymrwymodd i dalu’r ffi’r llynedd. Ond, ar adeg pan mae cyllidebau’n tynhau o hyd, nid oes unrhyw sicrwydd y caiff ei dalu ym mis Ebrill 2017.  Rhaid clustnodi arian ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol i sicrhau nad oes disgwyl i Weithwyr Cymorth Dysgu ysgwyddo cost y ffi cofrestru fis Ebrill nesaf.

Oherwydd y rhesymau hyn, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i glustnodi arian yn y setliad Llywodraeth Leol i ariannu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion ym mis Ebrill 2017.

Y cefndir

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn darparu ar gyfer sefydlu Cyngor y Gweithlu Addysg fel olynydd i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Cyn hynny, dim ond athrawon mewn ysgolion a gynhelir a oedd wedi'u cofrestru â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Sefydlwyd Cyngor y Gweithlu Addysg ar 1 Ebrill 2015. Mae'r Ddeddf yn gosod dau brif nod ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg:

¡    cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru; a

¡    chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.

Roedd y Ddeddf yn ymestyn y rhwymedigaeth i grwpiau ychwanegol o staff gofrestru gyda'r corff newydd - gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion, athrawon addysg bellach a gweithwyr cymorth dysgu.

Rhesymeg Llywodraeth Cymru dros sefydlu Cyngor y Gweithlu Addysg ac ymestyn y gofyniad i grwpiau gofrestru oedd yr angen am gorff gyda chylch gwaith ehangach a oedd yn adlewyrchu'n well y cydweithio agos rhwng y gwahanol sectorau o weithwyr o fewn addysg. Roedd yr enghreifftiau a ddarparwyd o'r gweithio agos hwn yn cynnwys mwy o ddefnydd o staff cymorth ysgolion (cynorthwywyr addysgu) a chydweithredu yn y sector ôl-16 rhwng ysgolion a cholegau.  

Daeth y gofyniad i athrawon Addysg Bellach gofrestru i rym ar 1 Ebrill 2015.  Ers 1 Ebrill 2016 mae'n rhaid i weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gynhelir ac mewn addysg bellach hefyd gofrestru.

Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016, a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2016, yn ymestyn y gofynion cofrestru i weithwyr ieuenctid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Ffioedd cofrestru

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy am gofrestru gyda'r Cyngor. O dan hen Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, y ffi gofrestru flynyddol oedd £45, ac roedd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu cymhorthdal o £33.

Ym mlwyddyn gyntaf Cyngor y Gweithlu Addysg (2015-16), yr un oedd y trefniadau ffioedd ar gyfer athrawon ac roedd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal ar gyfer ​​ffioedd athrawon Addysg Bellach a dalodd £18 o'r ffi o £45. 

Mae'r rheoliadau presennol, Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 yn cynyddu'r ffi flynyddol a delir gan athrawon o £45 i £78.

Tabl 1: Y ffioedd cofrestru presennol

Categori

Ffi Gofrestru

Cymhorthdal

Cyfraniad

Athro Ysgol

£78*

£33

£45

Athro AB

£49

£4

£45

GCD mewn ysgol

£49

£34

£15

GCD AB

£49

£34

£15

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Ffioedd cofrestru ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru (2017), Mehefin 2016

Mae athrawon wedi cael cymhorthdal ​​ers tro tuag at eu ffioedd cofrestru, sy'n cael ei ad-dalu iddynt gan awdurdodau lleol yn eu cyflog. Darperir ar gyfer hyn yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU gan nad yw cyflog ac amodau gwaith athrawon yn swyddogaeth sydd wedi'i datganoli.

Yn hytrach na rhoi'r cyllid ar gyfer y cymhorthdal ​​i awdurdodau lleol i'w drosglwyddo i athrawon, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo mewn cynlluniau i roi'r arian hwnnw i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn i ffioedd pob un sydd wedi cofrestru gael eu gostwng, yn hytrach na dim ond darparu cymhorthdal ​​ar gyfer athrawon. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU newid y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori (tan 30 Medi 2016) ar y trefniadau ar gyfer gwneud y newid hwn. Ni fyddai'r effaith net ar gyfer y rhai sy'n cofrestru ar hyn o bryd yn wahanol.

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Tachwedd 2016:

“Mae’r ffigur llinell sylfaen diwygiedig ar gyfer 2017-18 yn cynnwys £1 miliwn sydd wedi’i drosglwyddo o’r Grant Cymorth Refeniw at ddibenion y cymhorthdal ar gyfer ffioedd cofrestru athrawon. Yn 2015, ad-drefnwyd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i greu Cyngor y Gweithlu Addysg. Yn sgil hyn cafodd cofrestru proffesiynol ei ehangu i gynnwys athrawon Addysg Bellach (AB) sy’n gweithio mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru. Ers hynny mae cofrestru proffesiynol wedi cael ei ehangu ymhellach i gynnwys pob Gweithiwr Cymorth Dysgu sy’n gweithio mewn ysgolion a sefydliadau AB yng Nghymru.  Bydd y trosglwyddiad yn golygu bod modd rhannu’r cymhorthdal ar gyfer ffi cofrestru athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg rhwng pob ymarferydd addysgu.”

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.